SL(6)373 – Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2023

Cefndir a diben

Sefydlwyd Cynllun Masnachu Allyriadau ("ETS") y DU gan Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 ("y prif Orchymyn") fel cynllun masnachu allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer y DU gyfan, a fydd yn ffordd gost-effeithiol o annog y sectorau pŵer, diwydiant ac awyrennau i leihau eu hallyriadau. Cafodd ei ddylunio ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Mae'n cyfrannu at dargedau lleihau allyriadau a nod sero net y DU, yn ogystal â'r llwybr lleihau allyriadau yng Nghymru.

Cafodd ETS y DU ei sefydlu gan y prif Orchymyn i fod yn weithredol o 1 Ionawr 2021 ac i bara am ddeng mlynedd. Mae'r cynllun yn gweithio drwy ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr gweithfeydd diwydiannol ynni-ddwys, cynhyrchwyr pŵer a gweithredwyr awyrennau fonitro, adrodd ar ac ildio "lwfansau" sy'n cyfateb i'w hallyriadau nwyon tŷ gwydr ym mhob un o flynyddoedd y cynllun. Mae rhai cyfranogwyr yn cael dyraniad o lwfansau yn ddi-dâl. Cyhoeddir eu manylion mewn tablau dyrannu.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys cyfres o ddiwygiadau technegol sy'n ceisio rheoleiddio gweithrediad ETS y DU. Mae'r Memoradum Esboniadol yn darparu mai dyma ddiben y prif newidiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn:

·         Ymateb i effeithiau pandemig Covid-19 ar y ffordd y mae’r cynllun yn cael ei weithredu;

·         Cryfhau darpariaethau’r cynllun i’w wneud yn fwy effeithiol ond gan ei wneud yn fwy hyblyg i gyfranogwyr;

·         Gwneud y ddeddfwriaeth yn gliriach i wneud pethau’n sicrach ac yn fwy cyson i gyfranogwyr a rheoleiddwyr.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Gorchymyn hwn yn y Cyfrin Gyngor gan Ei Fawrhydi cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd, Senedd y DU, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon ar 21 Gorffennaf 2023. Caiff unrhyw un o’r deddfwrfeydd hynny ddiddymu’r Gorchymyn, yn unol â’r gweithdrefnau penderfyniad negyddol sy’n gymwys i’r deddfwrfeydd hynny.

 

 

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Nodwn y cafodd y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ei wneud gan Ei Fawrhydi a'i osod gerbron pob un o'r pedair deddfwrfa yn y Deyrnas Unedig, ac felly mae yn Saesneg yn unig.

 

Rhinweddau: craffu    

Ni nodwyd pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

22 Awst 2023